Next
Stack of felled timber
02.12.2020

Disgyblion yn plannu ‘perthi gobaith’

Mae disgyblion ysgolion cynradd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn plannu ‘perthi gobaith’ i ddathlu Wythnos Genedlaethol Coed ac mewn ymgais i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.

Bydd disgyblion o ysgolion cynradd Santes Gwladys, Gilfach Fargoed, y Parc ac Aberbargod yn ymuno â Cheidwaid Cefn Gwlad Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i blannu 500 metr o berthi newydd – sy'n cyfateb i 2,000 o goed newydd – ym Mharc Coetir Bargod. Bydd gwirfoddolwyr o'r prosiect ‘Gofalwn’, sy'n cael ei gyflenwi gan Groundwork, hefyd yn treulio diwrnod yn helpu'r prosiect.

Yn 2019, fe ddaeth y Cyngor yr ail un yng Ngwent i ddatgan argyfwng hinsawdd ac ymrwymo i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030. Mae'r prosiect blynyddol, ‘perthi gobaith’ – sy'n cael ei arwain gan Wasanaeth Ceidwaid Cefn Gwlad y Cyngor – yn mynd ati i gefnogi hyn trwy blannu coed a pherthi i helpu amsugno carbon.

Mae coed yn helpu cael gwared â nwyon tŷ gwydr a charbon deuocsid o'r aer, gan helpu lleihau cynhesu byd-eang. Dros nifer o flynyddoedd, mae coed wedi cael eu torri i lawr yng Nghymru gan adael dim ond 16% yn ardaloedd coetir, o'i gymharu â'r mwyafrif o wledydd Ewropeaidd sydd â 30%.

Meddai'r Cynghorydd Sean Morgan, Dirprwy Arweinydd y Cyngor, “Mae mynd i’r afael â'r newid yn yr hinsawdd, cynyddu cynaliadwyedd a gwarchod ein hamgylchedd er budd cenedlaethau'r dyfodol yn flaenoriaeth allweddol i'r Cyngor, ac rydyn ni'n gwneud gwaith sylweddol i ddelio â'r mater hwn. Mae prosiectau fel y rhai sy'n cael eu darparu gan ein Gwasanaeth Ceidwaid yn bwysig, nid yn unig wrth helpu ein hamgylchedd, ond hefyd wrth ymgysylltu â'n pobl ifanc a'n cymunedau lleol; gan godi ymwybyddiaeth o'r newid yn yr hinsawdd, a'r rôl y mae'n rhaid i ni i gyd ei chwarae wrth fynd i'r afael ag ef.”

Disgyblion o Flwyddyn 6 Ysgol Santes Gwladys Bargod yn helpu i blannu perth newydd ym Mharc Coetir Bargod. Helpu i wneud dyfodol gwell i bobl a bywyd gwyllt yn eu hardal.