Next
Stack of felled timber
29.05.2020

Rydym yn ailagor ein Parciau Gwledig

Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru, rydyn ni wedi penderfynu ailagor y meysydd parcio o fewn ein Parciau Gwledig yn y Fwrdeistref Sirol ar unwaith (o ddydd Sadwrn 30 Mai).

Bydd y 5 parc i gyd yn ailagor, fodd bynnag, fydd y maes parcio ar waelod Parc Gwledig Cwm Sirhywi  ddim yn ailagor eto o ganlyniad i waith torri coed parhaus gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Rydym yn gobeithio ei ailagor cyn gynted ag y bydd y gwaith wedi'i gwblhau.

Meddai'r Cynghorydd Philippa Marsden, Arweinydd Cyngor Caerffili, "Rwy’n croesawu’r penderfyniad hwn i ganiatáu i’n trigolion fwynhau ein parciau gwledig hardd unwaith eto, fodd bynnag, rhaid imi bwysleisio pwysigrwydd cadw pellter cymdeithasol wrth ddefnyddio’r cyfleusterau hyn. Rydych chi wir wedi uno fel cymuned i reoli'r feirws, a rhaid i ni barhau i weithredu yn unol â'r gyfraith.”

Mae gwaith wedi bod yn digwydd i sicrhau bod y safleoedd yn barod i ailagor, gan gynnwys codi arwyddion cadw pellter cymdeithasol.Nid yw’r peiriannau talu ac arddangos ddim wedi cael eu trin dros yr wythnosau diwethaf, felly fydd y gwasanaeth gorfodi parcio ddim yn gweithredu ar y safleoedd hyn hyd nes y bydd y peiriannau yn weithredol unwaith eto.  

Am y tro, bydd y canolfannau ymwelwyr yn aros ar gau. Serch hynny, bydd hyn yn cael ei adolygu o hyd a byddant yn ailagor pan fydd yn ddiogel gwneud hynny. Does dim cynlluniau ar hyn o bryd i ailagor yr ardaloedd chwarae i blant, mannau chwarae amlddefnydd na'r parciau sglefrio. Bydd y rhain yn aros ar gau, ynghyd â llawer o gynghorau eraill ledled Cymru, penderfyniad a wnaed yn unol â chanllawiau a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru.