Next
Stack of felled timber
22.10.2020

Y Galeri Celf Cyfrinachol

Mae oriel gelf gudd, enfawr sy'n aros i gael ei darganfod ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Dros y blynyddoedd, mae nifer o artistiaid wedi bod yn ychwanegu cymysgedd o waith celf gwahanol ati, a dim ond y bobl fwyaf penderfynol neu'r mentrwyr a fydd yn darganfod pob un. Bydd y ffilm fer newydd, ‘Y Galeri Celf Cyfrinachol’, yn eich helpu chi i ddechrau darganfod rhai ohonyn nhw… felly ymlaciwch ac archwilio trwy'r ddolen hon!

Crëwyd ‘Y Galeri Celf Cyfrinachol’ gan Wasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Caerffili a'r sefydliad, Celf ar y Blaen, fel rhan o'r digwyddiad diweddar, ‘Cwtsh Rhithwir – Gŵyl Les Creadigol’. Roedd yr ŵyl yn cynnwys rhaglen 3 diwrnod o hyd o weithgareddau creadigol, cyffrous, ar-lein gyda'r nod o helpu i gefnogi lles pobl a nodi Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ar 10 Hydref 2020. Trefnwyd y Cwtsh Rhithwir gan Rwydweithiau Lles Integredig Gwent ac roedd yn cynnwys gwahanol sefydliadau celfyddydol ac artistiaid.

Os hoffech chi weld rhagor o waith celf cyhoeddus ein Bwrdeistref Sirol, ewch i'n tudalen Flickr.

Am ragor o ysbrydoliaeth greadigol, ewch i wefan Celf ar y Blaen.