Next

Er ein bod ni bob amser yn awyddus i glywed am rywogaethau prin rydych chi wedi'u gweld, mae rhai planhigion ac anifeiliaid mae ganddon ni ddiddordeb penodol mewn clywed amdanyn nhw. Isod, mae rhestr o ddeg o blanhigion, anifeiliaid ac adar sy'n brin iawn yn y fwrdeistref sirol, a'r rhesymau pam eu bod yn prinhau. Os ydych chi wedi eu gweld nhw, cysylltwch â'r Tîm Bioamrywiaeth.

Tylluan wen

Statws yng Nghaerffili - Anfynych

Rheswm - Diffyg llefydd i nythu, er enghraifft hen ysguboriau a diffyg llefydd i hela.

barn-owl-5b1149a80b9d2.gif

Tegeirian y wenynen (delwedd o un blodeuyn)

Statws yng Nghaerffili - Anfynych

Rheswm - Diffyg cofnodion. Maen nhw i'w cael ar laswelltir calchfaen, ac weithiau ar ymyl ffyrdd a rheilffyrdd, chwareli a choedwigoedd.

bee-orchid-5b112e6393112.gif

Ysgyfarnog

Statws yng Nghaerffili - Anfynych

Rheswm - Newid yn y ffordd mae cnydau'n cael eu tyfu.

brown-hare-5b112e6b8083d.gif

Pathew

Statws yng Nghaerffili - Prin

Rheswm - Newid yn y ffordd rydyn ni'n gofalu am ein coetiroedd.

common-dormouse-5b11535ddbc2e.gif

Briallen fair sawrus

Statws yng Nghaerffili - Anfynych

Rheswm - Diffyg cofnodion. Maen nhw i'w gweld fel arfer mewn hen ddolydd ac ar ymyl caeau, ffyrdd a thraciau rheilffyrdd.

cowslip-5b11536c72084.gif

Grass Snake

Status in Caerphilly - Threatened

Reason - Loss of old grasslands. Killed through our fear. Don't be afraid they are NOT poisonous!

grass-snake-5b11537cbc862.gif

Neidr y gwair

Statws yng Nghaerffili - Mewn Perygl

Rheswm - Diffyg hen laswelltir. Cael eu lladd am fod pobl eu hofn. Peidiwch â bod eu hofn - dydyn nhw DDIM yn wenwynig!

Madfall ddŵr gribog

Statws yng Nghaerffili - Anfynych

Rheswm - Diffyg pyllau dŵr a phlanhigion ar wlyptiroedd cyfagos.

great-crested-newt-5b11538e16434.gif

Britheg frown

Statws yng Nghaerffili - Prin

Rheswm - Newid yn y ffordd rydyn ni'n gofalu am ein coetiroedd. Ein glöyn byw sydd mewn perygl fwyaf.

high-brown-fritillary-5b11539b13f4e.gif

Cornchwiglen

Statws yng Nghaerffili - Prin

Rheswm - Newid defnydd o dir amaeth. Caerffili sydd â'r boblogaeth fwyaf yng nghymoedd y de.

lapwing-5b1153a71829a.gif

Britheg y gors

Statws yng Nghaerffili - Prin

Rheswm - Diffyg glaswelltir corsiog lle mae'r planhigyn yn tyfu. Caerffili sydd â'r boblogaeth fwyaf yng nghymoedd y de.

marsh-fritillary-5b1153b271f3c.gif

Troellwr mawr

Statws yng Nghaerffili - Prin

Rheswm - Diffyg coetiroedd ifanc a newid yn y ffordd rydyn ni'n gofalu am ein coetiroedd.

nightjar-5b1153bebff68.gif

Dyfrgi

Statws yng Nghaerffili - Mewn Perygl

Rheswm - Afonydd wedi'u llygru a diffyg llefydd iddyn nhw ymgartrefu (gwâl).

otter-5b1153ce62170.gif

Ehedydd

Statws yng Nghaerffili - Mewn Perygl

Rheswm - Newid yn y ffordd rydyn ni'n ffermio. Dal i'w cael ar diroedd comin.

skylark-5b1153da7c130.gif

Llygoden y dŵr

Statws yng Nghaerffili - Prin

Rheswm - Newid yn y ffordd rydyn ni'n ffermio. Dal i'w cael ar diroedd comin.

water-vole-5b1153e6e32ec.gif

Cribell felen (delwedd o un blodeuyn)

Statws yng Nghaerffili - Anfynych

Rheswm - Diffyg hen ddolydd.

yellow-rattle-5b1153f07b88e.gif

Gwybodaeth Gyswllt

Y Tîm Bioamrywiaeth, Tŷ Bargod, 1 St Gwladys Way, Bargod, CF81 8AB

Ffôn: 01443 866615 E-bost: cefngwlad@caerffili.gov.uk

Cynnwys a Awgrymir