Next

Gyda thua 500 milltir neu 800 cilomedr o hawliau tramwy cyhoeddus ym mwrdeistref sirol Caerffili yn cysylltu ein pentrefi a'n trefi, maen nhw'n adnodd ardderchog er mwyn cael cysylltiad â'n cefn gwlad hardd. Os nad ydych chi'n eu defnyddio, edrychwch beth rydych chi'n ei golli...

Beth yw Hawl Dramwy Gyhoeddus?

Llwybr yw hawl dramwy gyhoeddus sydd wedi'i gofnodi ar y Datganiad a Map Diffiniol o dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949. Gall y llwybrau hyn amrywio yn eu natur, o lwybrau gwledig i rai trefol, ac ni ddylid eu cymysgu gyda 'troetffyrdd', sy'n ffyrdd wedi'u gosod ar wahân i gerddwyr ar ochr ffyrdd i gerbydau (y'u gelwir yn bafin fel arfer).

Troetffyrdd – cerddwyr sydd â'r hawl dramwy ar y rhain.

2.png

Llwybrau Ceffylau – ar droed, ar geffyl, yn arwain ceffyl neu ar feic pedal y mae'r hawl dramwy ar y rhain.

3.png

Cilffyrdd Cyfyngedig – (Ffyrdd a Ddefnyddir fel Llwybrau Cyhoeddus yn ffurfiol) – ar droed, ar geffyl, yn arwain ceffyl, ac mewn neu ar gerbyd nad yw'n fecanyddol y mae'r hawl dramwy ar y rhain – sy'n rhoi hawl dramwy i feiciau pedal a cherbydau a gaiff eu tynnu gan geffyl.

4.png

Cilffyrdd sydd ar agor i unrhyw draffig – traffig cerbydau sydd â'r hawl dramwy ar y rhain, ond cânt eu defnyddio'n bennaf at yr un dibenion ag y caiff troetffyrdd a llwybrau ceffylau eu defnyddio.

5.png

Lôn Werdd – term heb unrhyw ystyr cyfreithiol. Yn hytrach, mae'n ddisgrifiad o natur y trac, a all fod â hawl dramwy gyhoeddus neu beidio. Nid yw'r llwybrau hyn wedi'u cofnodi ar y map diffiniol felly.

Llwybrau caniataol – lle mae perchennog y tir (a all fod y Cyngor) wedi rhoi caniatâd i'r cyhoedd gerdded ar draws eu tir. Nid yw'r llwybrau hyn wedi'u cofnodi ar y map diffiniol chwaith.

Gwneud y mwyaf ohonynt

Nawr eich bod chi'n gwybod beth yw hawliau tramwy cyhoeddus, sut mae gwneud y mwyaf ohonyn nhw er mwyn gweld ein cefn gwlad hardd?

Mae'r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus wedi'i nodi ar fapiau'r Arolwg Ordnans. Y gyfres Explorer yw'r mwyaf defnyddiol i gerddwyr a beicwyr (mae Explorer 166 yn cynnwys rhan fwyaf o'r fwrdeistref sirol). Gallwch ddefnyddio eich map i gynllunio eich teithiau cyn mynd allan i gerdded. Mae arwyddion o'r ffordd ar gyfer bron â bod pob llwybr y rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus, ac yn aml mae cyfeirbwyntiau ar draws caeau ar gamfeydd a gatiau yn defnyddio'r arwyddion cod lliw uchod. Yng nghymoedd y de, does dim llawer o bellter nes y gallwch gerdded ar hyd ochrau'r bryniau, gan fwynhau golygfeydd anhygoel a theimlo eich bod ben draw'r byd o'r bywyd dydd i ddydd islaw.

Cofiwch fod cefn gwlad yn dirwedd gweithio a dylech ddilyn y Cod Cefn Gwlad.

Rhagor o wybodaeth

Mae rhagor o wybodaeth am yr agweddau canlynol o hawliau tramwy cyhoeddus ar gael ar brif wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, neu gallwch gysylltu â'r Adran Hawliau Tramwy:

  • Map Hawliau Tramwy Cyhoeddus
  • Gorchmynion Addasu
  • Datganiad a Map Diffiniol
  • Cofrestr datganiadau statudol o dan Ddeddf Priffyrdd 1980.
  • Cynnal a Chadw
  • Cynllun Gwella Hawliau Tramwy
  • Fforwm Mynediad Lleol

Gwybodaeth Gyswllt

Adran Hawliau Tramwy, Tŷ Bargod, 1 Heol Gladys, Bargod, CF81 8AB

Tel: 01443 866645/866669

E-bost: hawliautramwy@caerffili.gov.uk