Canllaw tywys wedi'i recordio yw taith sain, y gallwch ei lwytho i lawr ar ffôn symudol, chwaraeydd MP3, iPod neu gynorthwywr digidol personol. Gallwch wrando arnyn nhw adref, ond byddai sefyll wrth y nodwedd i wrando yn helpu i ddod â'r clipiau'n fyw. Ar hyn o bryd mae ganddon ni deithiau sain ar gyfer dau o'n parciau gwledig, ac un ar gyfer coetir lleol sy'n cael ei reoli gan Ymddiriedolaeth Coetiroedd Caerffili.
Mae ein llwybr cyntaf yn dilyn taith Parc Cwm Darran o fod yn 'blaned wenwynig' i fod yn hafan bywyd gwyllt mewn llai na deng mlynedd ar hugain. Wel, rhan o raglen Doctor Who y BBC oedd y blaned wenwynig, ond roedd y lleoliad yn cynnig tirlun Mawrthaidd perffaith ar gyfer ffilmio'r gyfres yn ystod diwedd y saithdegau. Gwrandewch ar y daith sain hon i glywed am yr hyn ddigwyddodd yma i wneud y parc yn lleoliad addas fel cefndir estron. Mae'r clipiau wedi'u gosod yn ôl trefn llinell, er mwyn i chi eu dilyn fel llwybr gyda map y gallwch ei lwytho i lawr.
Ym Mharc Penallta, mae'r sylwebaeth yn amlinellu'r straeon y tu ôl i rai o'r cerfluniau o'r Arsyllfa Pwynt Uchel i'r gwlyptiroedd isel yn y Crannog. Nid llwybr wedi'i dywys yw'r daith sain hon fel y cyfryw, ond mae'n eich annog chi i archwilio a dod o hyd i'r cerfluniau eich hunan. Llwythwch daflen y parc i lawr, sy'n nodi'n fras ble mae safleoedd rhai o'r cerfluniau.
Bydd ein trydydd taith yn eich caniatáu i ddysgu mwy am hanes daearyddol hudol hen Byllau Clai Wern Ddu, sy'n agos i Gaerffili. Mae'r Pyllau Clai, a gaiff eu hadnabod hefyd fel Coed-y-Werin, yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Daearegol Arbennig, oherwydd y creigiau haenau glo eithriadol a welir yno. Roedd y rhain yn bwysig yn rhyngwladol, a dyma wnaeth De Cymru'n enwog. Wrth i chi archwilio, a dylech barchu'r coed, y bywyd gwyllt a'r creigiau.
Ni fydd angen i chi fynd ymhell oddi ar y llwybrau amlwg ac mae polion pren wedi'u rhifo i nodi'r holl bwyntiau sain.
I chwarae'r ffeil sain mp3, cliciwch ar y ddolen mp3. I lawrlwytho'r ffeil sain mp3, dde-gliciwch neu dewis-gliciwch ar y ddolen mp3 a dewiswch "Save As...". Mae trawsgrifiad o bob clip ar gael hefyd.