Next

Prosiect Banc Hadau Lleol

Dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi colli llawer o'r dolydd cyfoethog eu rhywogaethau ym mwrdeistref sirol Caerffili. Cafodd y prosiect banc hadau lleol ei sefydlu yn 2010 er mwyn hyrwyddo'r defnydd o hadau sy'n tarddu'n lleol er mwyn ail-greu'r dolydd yma. Rydyn ni'n chwilio am ddolydd lleol sy'n gyfoethog eu rhywogaethau a fyddai'n ffynhonnell dda o hadau ar gyfer ein safleoedd rhoi. Felly os ydych chi'n gwybod am ddolydd da, rydyn ni eisiau clywed gennych chi.

Sut mae'n gweithio

Mae'r prosiect yn dechrau drwy ddewis safleoedd rhoi a derbyn. Yn gyntaf, mae arolwg sylfaenol o'r ddau safle'n cael ei gynnal, fel bod rhestr o'r rhywogaethau hysbys yn cael eu cofnodi ar gyfer y ddau safle.

Mae hadau'n cael eu casglu o'r safle rhoi gan ddefnyddio chwilotwr cynaeafu hadau. Caiff yr hedyn ei sychu a'i wasgaru ar y safleoedd derbyn.

Y gobaith yw y bydd yr hedyn yn gallu ymsefydlu yn y ddôl newydd gan wella'r amrywiaeth o rywogaethau sy'n bodoli yno'n barod a gwerth y ddôl. Drwy wneud hynny, rydyn ni'n gobeithio y gallwn ddarparu cynefin newydd hanfodol ar gyfer ein cacwn a pheillwyr eraill.

Felly os ydych chi'n gwybod lle mae enghreifftiau gwych o ddolydd ni allwn aros i glywed gennych.

seedbank.png

Gwybodaeth Gyswllt

Y Tîm Bioamrywiaeth, Tŷ Bargod, 1 St Gwladys Way, Bargod, CF81 8AB

Ffôn: 01443 866615 

E-bost: cefngwlad@caerffili.gov.uk

Cynnwys a Awgrymir