Next

Rhoddodd Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 hawliau mynediad ar droed newydd i dir agored, tir comin a thir wedi'i neilltuo fel tir mynediad, at ddibenion hamdden yn yr awyr agored.

Gallwch ddefnyddio'r tir mynediad yma i gerdded, rhedeg, gwylio bywyd gwyllt a dringo, ond nid fel arfer at ddibenion marchogaeth, beicio, gwersylla, gyrru cerbyd (ac eithrio sgwteri symudedd a chadeiriau olwyn modur) na chwaraeon dŵr. Does dim rhaid i chi gadw at y llwybrau ar dir mynediad - mae rhyddid ganddoch chi i ddilyn eich trwyn.

Rhwng 1 Mawrth a 31 Gorffennaf, mae'n rhaid i chi gadw cŵn ar dennyn heb fod yn fwy na dwy fetr o hyd er mwyn gwarchod adar sy'n nythu ar y ddaear, a rhaid i chi eu cadw ar dennyn bob amser o amgylch da byw.

Mae tir mynediad agored yn y fwrdeistref sirol yn cynnwys:

  • 3588 hectar o dir comin cofrestredig
  • 1698 hectar o goetir sy'n cael ei reoli gan Gyfoeth Naturiol Cymru
  • 497 hectar o dir agored

Mae hynny'n gyfanswm o 5783 hectar o dir yng Nghaerffili, neu dros 20% o'r fwrdeistref sirol. Mae un hectar, neu 2½ erw tua'r un maint â dau gae rygbi, felly mae gwerth oddeutu 2890 o gaeau rygbi sy'n dir mynediad agored y gallwch chi eu mwynhau ym mwrdeistref sirol Caerffili.

Chwiliwch am y symbolau yma i weld pa dir sy'n dir mynediad agored.

1a.png

Mae'r tir mynediad agored newydd yma'n cynnig cyfleoedd gwych i fwynhau gweithgareddau hamdden anffurfiol. Fodd bynnag, law yn llaw â'r cyfleoedd yma mae hawliau a chyfrifoldebau ar y cyhoedd sydd am ddefnyddio'r tir. Mae'n bosib iawn mai perchnogaeth breifat sydd ar y tir mynediad agored. Dylech ddilyn y Cod Cefn Gwlad a pharchu'r tir rydych chi'n cerdded arno.

Mae rhagor o wybodaeth am dir mynediad agored ar gael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Cynnwys a Awgrymir