Next

Mae enw'r corff dŵr hyfryd hwn rhywfaint yn gamarweiniol, gan nad yw'n bwll o gwbl mewn gwirionedd. Pwll Pen-y-Fan yw un o gronfeydd dŵr lledgamlas olaf Cymru. Fe'i adeiladwyd tua 1794, a'i ddiben oedd cyflenwi dŵr i ran Crymlyn o Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu. Erbyn hyn, mae'n safle teuluol poblogaidd yn ystod yr haf, ac mae'n cynnig mannau diogel, gwastad ac agored i gael picnic, hedfan barcud, cicio pêl neu fynd am dro hamddenol.

Mae'r pwll, sy'n gofeb ddiwydiannol hanesyddol sydd wedi'i gwarchod, mae'r pwll wedi'i amgylchynu â chaeau a choed ar dair ochr. Er bod y gofod gwyrdd hwn yn fach, mae'n parhau i fod yn atyniad poblogaidd i'n cymunedau lleol.

The reflection of autumn leaves in Pen-y-Fan Pond

Beth sydd i'w wneud a'i weld

Ymlacio

Mae dŵr wastad yn denu pobl, ac mae dŵr hefyd yn gostegu ac yn eich helpu i ymlacio. Beth am fynd am dro byr o gwmpas y pwll, cael picnic teuluol neu gymryd amser i eistedd ar un o'r meinciau a gwylio'r byd yn mynd heibio?

Llwybrau a Theithiau Cerdded

Os hoffech wybod pa mor bell fyddwch chi'n cerdded, yna mae un tro o gwmpas y pwll ar hyd y prif lwybr tua 1,275 medr. Felly byddai dau dro o gwmpas y llwybr gwastad hygyrch hwn a'i arwyneb da yn 1.5 milltir.

Os hoffech daith hirach, yna mae'r daith 7.5 milltir Dihangwch i... Fanmoel yn dechrau o'r Maes Parcio Uchaf. Ewch i'r dudalen Teithiau Cerdded i gael rhagor o fanylion.

Gweithgareddau Dŵr

Caiff Pwll Pen-y-Fan ei ddefnyddio ar gyfer ystod o weithgareddau dŵr, ond byddwch yn ymwybodol bod y rhain i gyd yn destun rhyw fath o gyfyngiad neu amod.

Pysgota   Mae tocynnau dydd ar gael o'r bysgodfa blu brithyll a reolir gan Glwb Pysgota Islwyn a'r Cylch. I gael rhagor o wybodaeth ewch i'n tudalen Bysgota.

Canŵio a phadlo bwrdd sefyll    Mae'r gweithgareddau hyn ar gyfer grwpiau sydd wedi trefnu yn unig, felly yn anffodus nid oes mynediad ar gyfer defnydd achlysurol na phersonol. Er mwyn trefnu ac archebu sesiwn, cysylltwch â Grŵp Antur Caerffili.

Ni chaniateir nofio ym Mhwll Pen-y-Fan o achos tymheredd oer iawn y dŵr drwy'r flwyddyn a'r peryglon sydd o dan y dŵr. Ni chaniateir unrhyw weithgareddau dŵr eraill ar hyn o bryd.

Cynllunio eich ymweliad

Ble mae'r pwll?   Mae Pwll Pen-y-Fan wedi'i leoli i'r gogledd o Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-Fan, gydag arwyddion o Oakdale ar y B4251. NP11 4EG

Sut i gyrraedd?   Mewn car - Mae arwyddion at y brif fynedfa o'r B4251 yn Oakdale. Ar fws - Gwasanaethau cyfyngedig gan 5A ac 13 o'r Coed-duon.

Oriau agor   Mae'r parc ar agor drwy'r flwyddyn. Mae mynediad i'r parc am ddim.

Meysydd parcio   Mae dau faes parcio ar gael drwy'r brif fynedfa oddi ar Parkway. Sylwch fod y giât i'r maes parcio uchaf wedi'i chloi yn y cyfnos.

Pwyntiau mynediad eraill   Mae modd cyrraedd y parc oddi ar Parkway, Heol Manmoel a thrwy lwybrau cerdded i'r gogledd o'r pwll.

Toiledau   Mae'r toiledau wedi'u lleoli wrth y caban ac maent ar agor bob dydd o fis Ebrill i fis Medi rhwng 10:00yb a 5:00yh. Maent ar gau yn ystod misoedd y gaeaf.

Ciosg   Mae caban bach sy'n gwerthu dewis o luniaeth ar agor gan amlaf yn ystod misoedd yr haf.

Byrddau picnic   Mae byrddau picnic i'w cael ar y gwair gwastad rhwng y caban a'r Maes Parcio Uchaf.

Hygyrchedd   Mae lleoedd parcio anabl ar gael yn y ddau faes parcio. Mae toiled anabl ar wahân sy'n defnyddio clo RADAR, felly bydd deiliaid allweddi yn gallu cael mynediad at y toiled hwn ar unrhyw adeg rhwng mis Ebrill a mis Medi. Mae'r pwll wedi'i amgylchynu â llwybr tarmac gwastad gyda mynediad hawdd at y meinciau o gwmpas y dŵr. Mae gan y llwybrau i'r meysydd parcio hefyd arwyneb tarmac, er bod llethr byr am i fyny yn arwain at y Maes Parcio Uchaf.

Gwybodaeth Gyswllt

Y Ganolfan Ymwelwyr, Parc Cwm Darran, Deri, Bargoed, CF81 9NR

Ffôn: 01443 875557

E-bost: ParcCwmDarran@caerffili.gov.uk

Cynnwys a Awgrymir