Next

Os ydych chi'n dîm chwaraeon sefydledig sydd am adnewyddu eich archeb neu os ydych chi'n dîm newydd sy'n chwilio am gae i chwarae arno, dyma'r dudalen i chi. Dyma lle dewch chi o hyd i'r ffurflenni cais angenrheidiol yn ogystal â'r telerau ac amodau sy'n rhaid i bob tîm gytuno i gadw atyn nhw cyn bod modd archebu.

Clybiau Newydd

Rhaid i glybiau newydd sy'n dymuno defnyddio caeau chwaraeon ym mwrdeistref sirol Caerffili wneud cais ysgrifenedig neu drwy e-bost i'r Adran Cyfleusterau Awyr Agored cyn cychwyn y tymor. Erbyn mis Mawrth yw hynny ar gyfer bowls a chriced a mis Mehefin ar gyfer pêl-droed a rygbi. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn llythyr i gadarnhau eich maes chwaraeon dynodedig yn ogystal â ffurflen Telerau ac Amodau.

Rhaid i'r clwb ddarllen a llofnodi'r ffurflen Telerau ac Amodau er mwyn cadarnhau eu bod yn cytuno i gadw at ein telerau ac amodau. Dylech ddychwelyd y ffurflen yn yr amlen a ddarparwyd erbyn y dyddiad sydd wedi'i nodi ar y ffurflen. Rhaid i chi hefyd gynnwys rhestr o raglen y tymor a thystysgrifau yswiriant atebolrwydd cyhoeddus cyfredol ar gyfer y tymor i ddod. Unwaith y bydd hyn wedi'i gwblhau, bydd modd i'ch tîm archebu gêm i'w chwarae ar y maes.

Clybiau Sefydledig

Os ydych chi'n glwb sefydledig sydd wedi cael maes chwarae dynodedig yn y tymor blaenorol, bydd ffurflen gais yn cael ei hanfon atoch chi'n awtomatig. Pan fyddwn ni wedi derbyn eich ffurflen byddwn ni'n pennu maes ar eich cyfer chi ac yn anfon ffurflen Telerau ac Amodau atoch chi.

Rhaid i'r clwb ddarllen a llofnodi'r ffurflen Telerau ac Amodau er mwyn cadarnhau eu bod yn cytuno i gadw at ein telerau ac amodau. Dylech ddychwelyd y ffurflen yn yr amlen a ddarparwyd erbyn y dyddiad sydd wedi'i nodi ar y ffurflen. Rhaid i chi hefyd gynnwys rhestr o raglen y tymor a thystysgrifau yswiriant atebolrwydd cyhoeddus cyfredol ar gyfer y tymor i ddod. Unwaith y bydd hyn wedi'i gwblhau, bydd modd i'ch tîm archebu gêm i'w chwarae ar y maes.

 

Byddwn yn gwrthod unrhyw archeb gan glwb sydd heb ddychwelyd y ffurflen Telerau ac Amodau, tystysgrifau yswiriant atebolrwydd cyhoeddus neu raglen tymor erbyn dechrau'r tymor, nes ein bod wedi cael yr holl ffurflenni.

Sesiynau Ymarfer Clybiau

  • Rhaid i glybiau wneud cais ysgrifenedig er mwyn cael caniatâd gan y Gwasanaethau Parciau i ymarfer ar eu maes dynodedig yn ystod unrhyw dymor.
  • Pan fydd meysydd chwarae "Dau Ddefnydd", sef meysydd sy'n cael eu defnyddio ar gyfer pêl-droed a rygbi, yn cael eu dynodi i glwb, ni fydd caniatâd i ymarfer ar y maes yn cael ei roi o dan unrhyw amgylchiadau. Ni fyddwn yn rhoi caniatâd ar gyfer unrhyw ymarfer. Bydd unrhyw glwb sy'n torri'r amod hon yn colli eu maes chwarae dynodedig.

Gwybodaeth Gyswllt

Mae rhagor o wybodaeth am ein caeau chwarae a'n cyfleusterau awyr agored eraill ar gael gan y tîm Cyfleusterau Awyr Agored:

Ffôn: 01443 811452E-bost: cyfleusterauawyragored@caerffili.gov.uk

Cynnwys a Awgrymir