Mae'n hawdd twyllo eich hunan i fynd am dro. Rhowch gynnig ar y syniadau yma:
Os byddwch chi'n meddwl bod cerdded yn gallu helpu eich ffitrwydd, cofiwch fod 30 munud o gerdded bob dydd yn help i'ch cadw i ffwrdd o'ch meddyg!
Er mwyn cael y manteision iechyd gorau, dylech anelu at gerdded yn gyflym am 30 munud bob dydd. Os yw hynny'n ormod, cerddwch yn gyflym am 10 munud dair gwaith y dydd. Dyna beth rydych chi'n anelu amdano. Gall hyn ymddangos yn ddychrynllyd, felly rydyn ni wedi meddwl am ffordd i'ch helpu i gyrraedd y nod yma. Mae cerdded yn gyflym yn golygu cerdded ar gyflymder sy'n gwneud i chi deimlo'n gynnes ac sy'n eich achosi i anadlu'n drymach nag arfer. Ond peidiwch â'i gorwneud hi. Fe ddylech chi fod yn gallu siarad wrth i chi gerdded!
Nawr, mae'r cyfrifoldeb yn eich dwylo chi. Heriwch eich hunan yn barhaus. Cofiwch, os byddwch chi'n cael trafferth yn ystod unrhyw un o'r ymarferion uchod, stopiwch. Ewch yn ôl i'r wythnos flaenorol a pheidiwch â symud ymlaen nes eich bod yn hyderus y gallwch chi gwblhau'r ymarferiad.
Nodwch: Os ydych chi wedi bod yn sâl yn ddiweddar, yn cymryd meddyginiaethau neu dros eich pwysau, dylech siarad â'ch meddyg cyn dechrau gwneud ymarfer corff.