Next

Mae cerdded yn ffordd ddiogel o wella eich iechyd a'ch ffitrwydd. Does dim angen offer arbennig arnoch chi, dim ond pâr o esgidiau cerdded a chot law (rhag ofn).

Cerddwch a chollwch eich bol!

Gadewch i ni edrych ar y rhifau. Dywedwch eich bod chi'n pwyso 11 stôn (70kg) a'ch bod yn cerdded 1½ milltir (2.2km) - byddech chi'n llosgi 162 o galorïau (tua'r un faint ag sydd mewn pecyn creision) waeth pa mor gyflym rydych chi'n cerdded. Efallai nad yw hyn yn swnio'n llawer, ond os byddech chi'n cerdded bump gwaith yr wythnos byddech chi'n llosgi tua 800 calori (5 pecyn o greision) a thros gyfnod o flwyddyn, yn llosgi 41,600 o galorïau (260 pecyn o greision!).

Mae'n rhaid defnyddio 3500 o galorïau er mwyn llosgi 1 pwys (450g) o fraster y corff. Os byddwch chi'n ofalus gyda'ch deiet ac yn mynd i gerdded bump gwaith yr wythnos, yna fe allech chi losgi bron i 12 pwys (5kg) o fraster y corff mewn blwyddyn. Dyw hynny ddim yn ffôl drwy wneud dim ond cerdded.

Cerdded yw'r ffordd rhwyddaf, mwyaf diogel, rhataf a gwyrddaf o wella eich iechyd. Defnyddiwch yr olwynion calorïau ar ein taflenni i gyfri faint o galorïau y gallech eu llosgi ar bob taith.

Teimlo'n well!

Mae cerdded yn rheolaidd yn eich helpu i deimlo'n well ac yn eich helpu i gysgu. Mae mynd am dro yn helpu i gael gwared ar straen hefyd. Gallwch ddianc o'r byd a'i bethau drwy fynd am dro. Bydd cerdded yn rheolaidd hefyd yn cryfhau eich calon, yn gostwng eich pwysedd gwaed, yn lleihau eich colesterol ac (os byddwch chi'n ofalus am yr hyn rydych chi'n ei fwyta hefyd) eich helpu i reoli'ch pwysau.

Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli i ddechrau cerdded fel rhan o ffordd fwy iachus o fyw, rydyn ni wedi datblygu cyfres o deithiau cerdded ar eich cyfer sy'n dechrau gyda llwybrau byr hawdd i lwybrau hirrach. Rydyn ni hefyd wedi paratoi Cyngor ar Gerdded Iachus i'ch helpu ar eich taith.

Ddim yn siŵr ble i ddechrau? Chwilio am arweiniad ychwanegol? Mae ein canllaw i grwpiau cerdded lleol yn yr ardal yn fan cychwyn da os hoffech chi gael cymorth a chefnogaeth gan bobl tebyg i chi.

Y teithiau cerdded Daliwch ati..!

Mae Daliwch ati..! yn becyn o deithiau cerdded 2 i 5 milltir - perffaith os ydych chi'n chwilio am deithiau cerdded hirrach. Mae amcangyfrif o galorïau wedi'u cynnwys ar gyfer pob taith felly os ydych chi angen colli pwys neu ddau, gallwch ddefnyddio'r llwybrau yma er mwyn eich helpu i golli pwysau.

Gwybodaeth Gyswllt

I gael rhagor o wybodaeth am deithiau Cerdded Iachus, cysylltwch â'r Arbenigwr Ymarfer Corff Cefn Gwlad:

Ffôn: 07788 547350

E-bost: beggbj@caerffili.gov.uk

Cynnwys a Awgrymir